Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
11 Tachwedd 2015
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
(30 munud)
NDM5868 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17, fel y nodir yn nhabl 1, 'Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2016-17', a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 4 Tachwedd 2015 ac sydd i'w hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Dogfennau Ategol:
Dogfen Cyllideb Comisiwn y Cynulliad
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
(60 munud)
NDM5869 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwerthfawrogi'r cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru;
2. Yn gwrthod pob math o ragfarn tuag at bobl hŷn yng Nghymru;
3. Yn gresynu nad yw pobl hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu yng Nghymru yn gallu cael mynediad at yr un lefel o gymorth â phobl iau;
4. Yn gresynu y gall diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus rwystro pobl hŷn rhag cael mynediad at gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith yr amcangyfrifir bod nifer y bobl 50 oed a throsodd nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) tair gwaith cymaint â nifer y bobl NEET o dan 25 oed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddylunio a gweithredu rhaglen benodol i wella sgiliau a rhagolygon cyflogadwyedd pobl dros 50 nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant .
Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod gan weithwyr iau a gweithwyr hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu anghenion gwahanol o ran cymorth cyflogaeth ac y dylai rhaglenni cyflogaeth gael eu cynllunio yn unol â hynny.
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith y gallai toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol leihau'r lefel o wasanaethau sydd ar gael i helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol.
(60 munud)
NDM5871 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cofio ac yn anrhydeddu'r rhai sydd wedi aberthu eu hunain i sicrhau a diogelu ein rhyddid;
2. Yn talu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac yn nodi'r rhwymedigaeth foesol sy'n ddyledus iddynt gan bobl ledled Cymru;
3. Yn credu y byddai sefydlu Comisiynydd y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn sicrhau gwasanaethau a chanlyniadau gwell i gymuned y Lluoedd Arfog;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu cerdyn cyn-filwyr, yn cynnig cyfres o fuddion i aelodau’r lluoedd arfog a chyn-filwyr i gydnabod eu gwasanaeth;
b) gweithredu asesiad o anghenion cyn-filwyr fel sail ar gyfer cyflenwi gwasanaethau; ac
c) diogelu cyn-filwyr a anafwyd cyn mis Ebrill 2005 drwy sicrhau nad yw eu Pensiwn Anabledd Rhyfel yn cael ei gymryd oddi wrthynt pan fyddant yn cael gofal cymdeithasol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pob dim ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei lle:
3. Yn croesawu'r ffaith fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi penodi Hyrwyddwyr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog;
4. Yn croesawu llwyddiant y Cerdyn Braint Amddiffyn yng Nghymru;
5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r pecyn cymorth ar gyfer y Lluoedd Arfog.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 4, dileu isbwynt a) a rhoi yn ei le:
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun peilot ar gyfer cerdyn ci gyn-filwyr i gynnig buddion i aelodau'r lluoedd arfog a chyn-filwyr i gydnabod eu gwasanaeth.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 4, cynnwys is-bwynt newydd:
gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cyn-filwyr yn derbyn iawndal priodol ar gyfer mesothelioma o ganlyniad i wasanaeth.
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cynlluniau megis Newid Cam, sy'n cynnig cyngor a mentora gan gyfoedion i gyn-filwyr a'u teuluoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn.
(60 munud)
NDM5870 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod costau gofal plant yng Nghymru ymhlith y drutaf yn y byd datblygedig;
2. Yn nodi bod teuluoedd yng Nghymru yn cael llai o ofal plant am ddim na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban;
3. Yn cydnabod pwysigrwydd addysg gynnar i godi cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig darpariaeth gyson o ofal plant am ddim ac addysg gynnar ledled Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyllid a gafodd ei sicrhau yn y cytuneb ar gyllideb 2014 rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu £0.4 miliwn dros ddwy flynedd i weithredu astudiaeth ddichonoldeb a chynllun peilot gofal plant ar gyfer myfyrwyr mewn addysg bellach.
(30 munud)
NDM5867Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)
Heintiau sy'n cael eu dal mewn ysbytai: yr heriau a'r atebion
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2015